Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(236)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.20

 

</AI2>

<AI3>

3     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd

 

Dechreuodd yr eitem am 14.30

 

</AI3>

<AI4>

4     Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

 

Dechreuodd yr eitem am 15.11

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

5

51

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI4>

<AI5>

5     Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014

 

Dechreuodd yr eitem am 15.43

 

NDM5650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI5>

<AI6>

6     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran

 

Dechreuodd yr eitem am 15.48

 

NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI6>

<AI7>

7     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Troseddau Difrifol

 

Dechreuodd yr eitem am 15.53

 

NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â chreulondeb at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

8     Dadl: Cyllideb Derfynol 2015-16

 

Dechreuodd yr eitem am 16.01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5651 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

 

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-2016 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 2 Rhagfyr 2014.

 

Troednodyn:

 

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

 

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

 

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

 

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

 

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

 

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

 

Darparwyd yr wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:

 

Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

4

22

52

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI8>

<AI9>

9     Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 16.44

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5652 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

 

Gosodwyd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2014.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2014.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

15

52

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI9>

<AI10>

10Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.45

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5653 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI10>

<AI11>

11Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 17.43

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 17.46

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>